Ciw-restr

Rhywun Wrth y Drws

Llinellau gan Mrs Morris (Cyfanswm: 286)

 
(1, 0) 332 Isaac.
 
(1, 0) 336 Rydw i'n dod ar eich traws chi mae arna' i ofn.
 
(1, 0) 339 Oes, felly rydw i'n gweld.
 
(1, 0) 341 Dim ond dod i ddeud bod Dr Hughes yma.
(1, 0) 342 Ydych chi ddim am ddod i'w weld o Isaac?
 
(1, 0) 346 Na ddim yn arbennig.
(1, 0) 347 I 'ngweld i y daeth o mewn gwirionedd ond na fasai 'fo ddim yn lecio mynd, heb gael gair efo chitha' hefyd.
 
(1, 0) 351 Mi ddowch chi drwodd yn y munud ynte'?
 
(1, 0) 356 Wel, cofiwch chi rŵan Isaac.
 
(1, 0) 423 Isaac, 'fedra' i gadw'r doctor ddim hwy.
 
(1, 0) 426 Ydych chi wedi gorffen y llythyr yn barod Miss Parry?
 
(1, 0) 430 Rhaid ei fod o'n fyr iawn.
 
(1, 0) 436 Mae'n rhaid ei bod hi'n gaffaeliad mawr i chi, Isaac, Miss Parry 'ma.
 
(1, 0) 439 Felly mae'n edrych.
 
(1, 0) 443 Ie.
(1, 0) 444 Rhaid bod hynny'n braf iawn.
 
(1, 0) 448 Fedrwch chi dd'eud hynny Isaac?
 
(1, 0) 451 Mae'n iawn.
(1, 0) 452 Wel mi ddowch yn ôl a chael swper efo ni ynte' Doctor?
 
(1, 0) 455 Diolch i chi.
 
(1, 0) 800 Pwy ydych chi'n dd'eud sy' 'na?
 
(1, 0) 802 O, chi sy' 'na Miss O'Reilly?
 
(1, 0) 804 Mi ddaethoch i'r dre wedi'r cwbwl.
 
(1, 0) 807 Yma, efo ni?
(1, 0) 808 Cewch â chroeso.
 
(1, 0) 810 Mi 'na' i fy ngora' i chi.
(1, 0) 811 'Dydy o ddim ond fy nyletswydd i.
(1, 0) 812 Bydd eich cesus chi'n cyrraedd cyn bo hir, debyg?
 
(1, 0) 814 Wel, bydd popeth yn iawn mae'n siŵr.
(1, 0) 815 Esgusodwch fi yn eich gadael chi yma efo'r gŵr am dipyn, tra bydda' i'n paratoi stafell i chi.
 
(1, 0) 818 O ie.
(1, 0) 819 Mae yna ddigon o le yn y fan honno.
 
(1, 0) 821 Eisteddwch rŵan a gorffwys dipyn.
 
(1, 0) 1270 Dyna ni.
(1, 0) 1271 Miss O'Reilly, mae'r stafell yn barod i chi rŵan.
 
(1, 0) 1275 Ie, yr un ganol.
(1, 0) 1276 Gadewch i ni fynd am swper gynta'.
 
(1, 0) 1280 Helen?
 
(1, 0) 1283 Oeddech chi wir, Isaac?
(1, 0) 1284 Gawn ni fynd?
(1, 0) 1285 Mae swper yn barod.
 
(2, 0) 1342 Synnwn i ddim petai ynta' hefyd yn marw.
 
(2, 0) 1346 Ydy siŵr, mae'r hen Feredith yn mynd i farw, Isaac, gewch chi weld.
 
(2, 0) 1348 Ie, hwyrach y dylwn i.
 
(2, 0) 1353 Breuddwydio am Miss O'Reilly ydych chi'n ei neud yn eistedd yn fan 'na?
 
(2, 0) 1356 Mae Miss O'Reilly wedi codi ers meitin.
 
(2, 0) 1358 Pan ês i i mewn i'w gweld hi roedd hi'n brysur yn rhoi trefn ar ei phetha'.
 
(2, 0) 1362 Ie on'd e?
 
(2, 0) 1364 Mae'r gwacter yma'n ofnadwy.
(2, 0) 1365 Rydych chi'n iawn.
 
(2, 0) 1369 O hyn ymlaen?
 
(2, 0) 1371 Am ei bod |hi| wedi dod yma ydych chi'n ei feddwl?
 
(2, 0) 1375 Ydych chi'n meddwl hynny, Isaac?
(2, 0) 1376 Fydd hi'n well wedyn?
 
(2, 0) 1379 Fydda' i'n meddwl dim o gwbwl am y tŷ newydd.
(2, 0) 1380 Morris
 
(2, 0) 1382 Mae'n wirioneddol ddrwg gen i eich clywed yn d'eud hyn'na achos mi wyddoch mai er eich mwyn chi, yn bennaf, yr ydw i wedi'i 'neud o.
 
(2, 0) 1385 Y gwir ydy, rydych chi'n g'neud llawer gormod o betha' er fy mwyn i.
 
(2, 0) 1389 O'r gora' 'na' i ddim d'eud hynny ynte' Isaac.
 
(2, 0) 1392 Nefoedd annwyl, brafiach arna' i?
 
(2, 0) 1396 Hen gartre' 'nhad a mam a losgwyd i'r llawr?
 
(2, 0) 1401 Faint bynnag o dai godwch chi, Isaac, fedrwch chi byth 'neud lle fydd yn gartre' iawn i mi.
 
(2, 0) 1404 Fyddwn ni byth |yn| sôn amdano fo.
(2, 0) 1405 Mi fyddwch chi, bob amser, yn gwrthod meddwl am y peth.
 
(2, 0) 1409 O byddwch Isaac.
(2, 0) 1410 Rydw i'n eich darllen chi fel llyfr.
(2, 0) 1411 Rydych chi eisio f'arbed i a g'neud esgusion dros fy nhyflwr i gymaint ag a fedrwch chi.
 
(2, 0) 1414 Ie wrth gwrs, amdana' i fy hun.
 
(2, 0) 1417 Gyda golwg ar yr hen dŷ, roedd y tân i fod i ddigwydd.
(2, 0) 1418 Does dim fedrwch chi ei 'neud yn erbyn ffawd.
 
(2, 0) 1421 Ond, yr hyn a ddigwyddodd o achos y tân, y peth dychrynllyd a ddigwyddodd wedyn, dyna'r peth na alla' i byth, byth, byth...
 
(2, 0) 1424 Dyna'r union beth na fedra' i ddim peidio â meddwl amdano.
(2, 0) 1425 A rŵan, rhaid i mi siarad amdano fo beth bynnag, achos 'dydw i ddim yn teimlo y medra' i ei ddal o'n llawer hwy; a finna' 'n gwybod na fedra' i byth fadda' i mi fy hun...
 
(2, 0) 1428 Ie, achos roedd gen i ddyletswydd at y ddwy ochor, atoch chi ac at y rhai bychain.
(2, 0) 1429 Mi ddylwn i fod wedi bod yn galed.
(2, 0) 1430 Peidio â gadael i'r arswyd fy llethu; na'r loes o golli 'nghartre efo'r tân chwaith.
(2, 0) 1431 O Isaac, gresyn na faswn i wedi bod yn ddigon cryf.
 
(2, 0) 1435 O'r nefoedd.
(2, 0) 1436 Addo, addo.
(2, 0) 1437 Mi all rhywun addo unrhyw beth.
 
(2, 0) 1441 |'Dydy| hwn ddim yn gartre', Isaac.
 
(2, 0) 1446 Fydd hi byth yn well.
(2, 0) 1447 Yr un mor wag, yr un mor oeraidd ag ydy hi yma.
 
(2, 0) 1451 Na fedraf.
(2, 0) 1452 Mae'n rhaid i chi ateb hynny drosoch eich hun.
 
(2, 0) 1455 Be' ydw i'n ei feddwl?
 
(2, 0) 1459 Nâc oedd, yn enw'r Tad, ar fy ngwir.
 
(2, 0) 1464 Bobol annwyl; am be' ar y ddaear ydych chi'n siarad?
(2, 0) 1465 Be' sy'?
 
(2, 0) 1468 Fi?
(2, 0) 1469 Ydych chi'n d'eud 'mod i'n g'neud hynny?
 
(2, 0) 1473 Sâl; ydych chi'n sâl Isaac?
 
(2, 0) 1478 Isaac, yn enw'r nefoedd...!
 
(2, 0) 1485 Nâc oes, wrth gwrs.
(2, 0) 1486 Ond eto, be' sy'n eich poeni chi gymaint?
 
(2, 0) 1488 Dyled?
(2, 0) 1489 Ond 'does arnoch chi ddim i neb.
 
(2, 0) 1493 Be' sy' y tu ôl i hyn i gyd?
(2, 0) 1494 Waeth i chi ddeud wrtha i ar unwaith.
 
(2, 0) 1498 Euogrwydd o'm plegid i?
 
(2, 0) 1500 Felly mae'n rhaid eich bod chi'n sâl wedi'r cwbwl Isaac.
 
(2, 0) 1528 Rhaid i mi fynd i'r dre' rŵan, Isaac.
 
(2, 0) 1530 Ac mi chwilia i am un neu ddau o betha' fydd yn ddefnyddiol i chi, Miss O'Reilly.
 
(2, 0) 1535 O, dim o gwbwl, dim ond fy nyletswydd i.
(2, 0) 1536 Rydw i'n falch o gael g'neud.
 
(2, 0) 1538 Mi edrycha' i am drowsus cynnes i'ch siwtio chi.
(2, 0) 1539 Mae hi'n gallu mynd yn oer iawn yma yr adeg yma o'r flwyddyn.
 
(2, 0) 1548 O peidiwch â siarad fel 'na Isaac annwyl.
 
(2, 0) 1554 A be' ydy'r un peth hwnnw, Miss O'Reilly?
(2, 0) 1555 Helen
(2, 0) 1556 O, 'dydw i ddim am dd'eud.
 
(2, 0) 1560 Pan fyddwch chi a Miss O'Reilly ar eich penna' eich hunain mi dd'wedith wrthych chi, Isaac, fwy na thebyg.
 
(2, 0) 1562 Ydw, siŵr.
(2, 0) 1563 Achos roeddech chi'n ei nabod hi mor dda ers talwm; ers pan oedd hi'n blentyn, meddech chi.
 
(2, 0) 2306 Dyma ychydig o betha' ydw i wedi gael i chi, Miss O'Reilly.
 
(2, 0) 2308 Twt, dim ond fy nyletswydd i.
(2, 0) 2309 Dim mwy na hynny.
 
(2, 0) 2312 Ie?
 
(2, 0) 2314 Oedd, wrth gwrs ei bod hi yna.
 
(2, 0) 2317 Roedd hi wrth y ddesg fel y mae hi bob amser y bydda i'n mynd trwodd.
 
(2, 0) 2358 Mewn difri', on'd oes ganddi hi lygaid t'wyllodrus?
 
(2, 0) 2361 O, 'dydw i ddim yn ddall Isaac...
(2, 0) 2362 Ydych chi'n eu diswyddo nhw o ddifri?
 
(2, 0) 2364 Y ferch hefyd?
 
(2, 0) 2367 Ond sut y medrwch chi 'neud hebddi |hi|?
(2, 0) 2368 O, ie.
(2, 0) 2369 Os ydw i'n eich nabod chi, mae gennych chi rywun arall mewn golwg.
 
(2, 0) 2382 Yn enw'r nefoedd, Miss O'Reilly, peidiwch â meddwl am y fath beth.
(2, 0) 2383 Fy ngŵr i!
(2, 0) 2384 Ac ynta'n cael pendro mor ofnadwy!
 
(2, 0) 2387 O ydy wir, mae o.
 
(2, 0) 2389 Ie, mi glywais i bobol yn sôn am hynny ond mae'n amhosib.
 
(2, 0) 2393 Sut y medrwch chi dd'eud hyn 'na Isaac?
(2, 0) 2394 Gwarchod, fedrwch chi ddim diodde rhoi eich pen allan o ffenest y llofft ucha.
(2, 0) 2395 Fel na y buoch chi erioed.
 
(2, 0) 2398 Nâc e, nâc e, nâc e!
(2, 0) 2399 O Dduw mawr, gobeithio na cha' i byth weld hynny.
(2, 0) 2400 Rydw i'n gyrru am y doctor y munud 'ma.
(2, 0) 2401 Wnaiff o byth ganiatâu'r fath beth.
 
(2, 0) 2403 Rhaid i mi 'neud.
(2, 0) 2404 Oherwydd rydych chi'n sâl, Isaac.
(2, 0) 2405 Mae hyn yn profi hynny.
(2, 0) 2406 O Dduw, O Dduw!
 
(3, 0) 2472 Fuoch chi o gwmpas yr ardd, Miss O'Reilly?
 
(3, 0) 2474 A dod o hyd i ychydig o floda' rydw i'n gweld.
 
(3, 0) 2477 Oes 'na wir?
(3, 0) 2478 O hyd?
(3, 0) 2479 Anaml iawn y bydda' i'n mynd yna, ydych chi'n gweld.
 
(3, 0) 2484 Fydda i ddim yn |picio| i unlle rŵan.
 
(3, 0) 2486 Mae'r cwbwl wedi mynd mor ddiarth i mi, bron nad oes arna i ofn mynd i weld erbyn hyn.
 
(3, 0) 2488 Dydw i ddim yn teimlo mai fi piau hi bellach.
 
(3, 0) 2490 Dydy hi ddim fel roedd hi yn amser nhad a mam.
(3, 0) 2491 O, nâc ydy.
(3, 0) 2492 Maen nhw wedi dwyn cymaint o'r ardd, Miss O'Reilly.
(3, 0) 2493 Be 'ddyliech chi?
(3, 0) 2494 Maen nhw wedi'i rhannu hi'n glytia' a chodi tai i bobol ddiarth yno, pobol nad ydw i ddim yn eu nabod nhw.
(3, 0) 2495 Ac mi fedran |nhw| eistedd ac edrych i mewn i'r tŷ arna' i o'u ffenestri.
 
(3, 0) 2498 Ie?
 
(3, 0) 2500 Cewch ar bob cyfri, os ydych chi eisio.
 
(3, 0) 2504 Chwarae teg i chi am fod eisio eistedd efo |mi|.
(3, 0) 2505 Roeddwn i'n meddwl mai i'r tŷ at y gŵr yr oeddech chi am fynd.
 
(3, 0) 2507 I'w helpu o, dyna oeddwn i'n feddwl.
 
(3, 0) 2512 Ond un ffeind a thyner ydy o mewn gwirionedd, wyddoch chi.
 
(3, 0) 2514 Dydych chi ddim yn ei nabod o eto, Miss O'Reilly.
 
(3, 0) 2517 Mi ddylwn i fod yn falch gan mai dyna ddymuniad Mr Morris.
 
(3, 0) 2519 Wir, Miss OReilly.
(3, 0) 2520 Oherwydd dyna 'nyletswydd i, cyd-dynnu efo fo.
(3, 0) 2521 Ond yn amal mae'n anodd iawn eich gorfodi eich hun i ufuddhau.
 
(3, 0) 2523 Ydy.
(3, 0) 2524 Coeliwch fi.
(3, 0) 2525 I rywun â chymaint o wendida' ag sy' gen i...
 
(3, 0) 2527 Sut y gwyddoch chi am hynny?
 
(3, 0) 2529 Prin iawn y bydd o'n sôn am y petha' yna efo mi.
(3, 0) 2530 Ydw, o ydw, rydw i wedi bod drwy fwy na digon o drwbwl yn fy mywyd, Miss OReilly.
 
(3, 0) 2535 Do.
(3, 0) 2536 Popeth oedd yn perthyn i mi wedi'i losgi.
 
(3, 0) 2539 Gwaeth?
 
(3, 0) 2541 Be' ydych chi'n 'i feddwl?
 
(3, 0) 2544 O, ie.
(3, 0) 2545 Nhw.
(3, 0) 2546 Ond roedd hynny'n beth gwahanol, wyddoch chi.
(3, 0) 2547 Trefn rhagluniaeth oedd hynny ac felly fedar rhywun neud dim ond ymostwng a bodloni...
(3, 0) 2548 Ie, a bod yn ddiolchgar hefyd.
 
(3, 0) 2550 Nid bob amser, mae'n ddrwg gen i dd'eud.
(3, 0) 2551 Mi wn i o'r gora' mai dyna ydy 'nyletswydd i.
(3, 0) 2552 Ond er hynny fedra' i ddim.
 
(3, 0) 2555 Ac yn amal rhaid i mi f'atgoffa fy hun mai cosb gyfiawn arna' i oedd hi.
 
(3, 0) 2557 Am nad oedd gen i ddigon o ddewrder yn wyneb anffawd.
 
(3, 0) 2559 O, peidiwch wir, Miss OReilly.
(3, 0) 2560 Peidiwch â siarad dim mwy am y ddau fachgen bach.
(3, 0) 2561 Dim rhaid bod yn drist yn eu cylch nhw.
(3, 0) 2562 Mae nhw'n hapus rŵan, y plant bach,... hapus rŵan.
(3, 0) 2563 Na, y mân golledion mewn bywyd sy'n torri calon rhywun.
(3, 0) 2564 Colli'r cwbwl o'r petha' nad ydy pobol yn meddwl dim ohonyn nhw.
 
(3, 0) 2569 Dim ond petha' bychain.
(3, 0) 2570 Fel roeddwn i'n d'eud.
(3, 0) 2571 Mi losgwyd yr hen lunia' i gyd ar y walia', a'r holl wisgoedd sidan oedd wedi bod yn y teulu ers cenedlaetha'.
(3, 0) 2572 A lês mam a nain, y cwbwl wedi'u llosgi.
(3, 0) 2573 A'r gema'.
 
(3, 0) 2575 A'r dolia' i gyd.
 
(3, 0) 2578 Roedd gen i naw o ddolia'; ddigon o ryfeddod.
 
(3, 0) 2580 Bob un.
(3, 0) 2581 Roedd hynny'n galed.
(3, 0) 2582 O mi deimlais i'n arw.
 
(3, 0) 2584 Wedi'u cadw, oeddwn.
(3, 0) 2585 Ond nid eu rhoi o'r neilltu.
(3, 0) 2586 Roedd y dolia' a finna' wedi dal i fyw efo'n gilydd.
 
(3, 0) 2588 Ie, ymhell ar ôl hynny.
 
(3, 0) 2590 O, ie.
(3, 0) 2591 Cyn belled na welai o mohonyn nhw.
(3, 0) 2592 Ond mi llosgwyd nhw i gyd, y petha' bach.
(3, 0) 2593 Feddyliodd neb am eu hachub nhw.
(3, 0) 2594 Rydw i mor ddigalon yn meddwl am y peth.
(3, 0) 2595 Wnewch chi ddim chwerthin am fy mhen i, na wnewch, Miss OReilly?
 
(3, 0) 2597 Oherwydd, roedd 'na fywyd ynddyn hwytha', ydych chi'n gweld?
(3, 0) 2598 Roeddwn i'n eu cario o dan fy nghalon, fel plant bach heb eu geni.
 
(3, 0) 2601 Mae hi reit braf a chynnes yma heddiw.
 
(3, 0) 2606 Mae na rywbeth mae'n rhaid i mi siarad amdano efo chi.
 
(3, 0) 2618 Hsht, hsht.
(3, 0) 2619 Yn enw'r nefoedd.
(3, 0) 2620 Mae o'n dod.
(3, 0) 2621 Ceisiwch gael y syniad 'na o'i ben o.
(3, 0) 2622 A Helen, fedrwn ni ddim bod yn ffrindia', dwedwch?
 
(3, 0) 2626 Dyna ni.
(3, 0) 2627 Dyna ni.
(3, 0) 2628 Dyma fo'n dod Doctor.
(3, 0) 2629 Ga' i air efo chi?
 
(3, 0) 2631 Ie wir.
(3, 0) 2632 Dowch i mewn.
 
(3, 0) 2996 Ydy o ddim yma?
(3, 0) 2997 B'le mae o wedi mynd?
 
(3, 0) 3001 Mi aeth â'r |wreath| efo fo?
(3, 0) 3002 O'r nefoedd!
(3, 0) 3003 Duw a'n helpo ni.
(3, 0) 3004 Meredith, ewch i lawr ato fo wir.
(3, 0) 3005 Perswadiwch o i ddod yn ôl i fan 'ma.
 
(3, 0) 3007 Ie.
(3, 0) 3008 Nâc e.
(3, 0) 3009 Na, peidiwch â d'eud bod arna' i eisio fo.
(3, 0) 3010 D'wedwch fod 'na rywun yma ac iddo ddod ar unwaith.
 
(3, 0) 3013 O, Miss O'Reilly fedrwch chi ddim dychmygu mor bryderus ydw i yn ei gylch o.
 
(3, 0) 3015 Ydych hi ddim yn sylweddoli ngeneth i?
(3, 0) 3016 Y peryg petai o'n g'neud hyn?
(3, 0) 3017 Petai o'n cymryd yn ei ben i ddringo'r sgaffald?
 
(3, 0) 3020 Does dim dal be' all o gymryd yn ei ben.
(3, 0) 3021 Mi all o 'neud unrhyw beth dan haul.
 
(3, 0) 3024 Wn i ddim be' i'w feddwl ohono fo, wir.
(3, 0) 3025 Mae'r doctor wedi bod yn d'eud pob math o betha' wrtha' i.
(3, 0) 3026 Ac wrth gysylltu hynny ag ambell i beth a glywais i o'i hun yn ei dd'eud...
 
(3, 0) 3029 Ydy, rydw i'n meddwl, rydw i wedi gyrru amdano fo beth bynnag.
 
(3, 0) 3032 Na, na.
(3, 0) 3033 Mi arhosa' i allan yma i ddisgwyl Isaac.
 
(3, 0) 3035 O'r annwyl, rhywbeth arall, a'r funud yma o bob adeg.
 
(3, 0) 3037 O! wel, rhaid imi fynd atyn' nhw wedi'r cwbwl debyg.
(3, 0) 3038 Mae'n ddyletswydd arna' i.
 
(3, 0) 3040 Na.
(3, 0) 3041 Wnâi hynny 'mo'r tro o gwbwl.
(3, 0) 3042 Gan eu bod nhw yma, fy nyletswydd i ydy eu gweld nhw.
(3, 0) 3043 Ond da chi, arhoswch chi allan yma i'w dderbyn o pan ddaw o.
 
(3, 0) 3045 Ia, os gwelwch chi'n dda.
(3, 0) 3046 Miss O'Reilly, daliwch eich gafael yn dynn ynddo fo.
 
(3, 0) 3048 Byddai, mae o'n ddyletswydd arna' i.
(3, 0) 3049 Ond pan fo gan rywun ddyletswydda' mewn cymaint o gyfeiriada'...
 
(3, 0) 3052 A minna'n gorfod mynd i'r tŷ.
 
(3, 0) 3057 A plis, gofalwch gadw'ch gafael yn dynn ynddo fo.
(3, 0) 3058 Chi fedar 'neud hynny ora'.
 
(3, 0) 3235 Oes 'na fand hefyd?
 
(3, 0) 3244 Pam mae eisio i chi fynd i lawr, Isaac?
 
(3, 0) 3247 Ie, i |lawr| cofiwch.
(3, 0) 3248 Dim ond ar lawr.
 
(3, 0) 3253 Da chi, perwch i'r dyn fod yn ofalus wrth fynd i fyny.
(3, 0) 3254 Cofiwch, Isaac.
 
(3, 0) 3258 O'r fath ryddhad.
(3, 0) 3259 Ddwy waith mae 'na ddynion wedi disgyn a chael eu lladd yn y fan.
 
(3, 0) 3261 Diolch i chi, Miss O'Reilly, am ddal gafael yn dynn ynddo fo.
(3, 0) 3262 Faswn i byth wedi medru g'neud hynny fy hun.
 
(3, 0) 3300 A mae o'n cario'r |wreath| hefyd.
(3, 0) 3301 O, gobeithio'r annwyl y bydd o'n ofalus.
 
(3, 0) 3308 Ie, Isaac ydy o!
(3, 0) 3309 O Dduw mawr!
(3, 0) 3310 Isaac!
(3, 0) 3311 Isaac!
 
(3, 0) 3315 Rhaid i mi fynd ato fo.
(3, 0) 3316 Rhaid i mi ei gael o i lawr!
 
(3, 0) 3331 Mae'r ofn yn ddigon amdana' i.
(3, 0) 3332 Fedra' i ddim diodde' edrych!